Want to use our meeting room at Y Bwtri - click here

Amdanom Ni

Sefydlwyd Y Bwtri yn 2003, ac ym Mehefin 2007 cymerwyd perchnogaeth y busnes drosodd gan dri brawd o Bwllheli - Geraint, Dafydd ac Eilir. Agorwyd ail siop ym Mhorthmadog yn Awst 2008.

Mae’r tri wedi ymrwymo i redeg Y Bwtri fel delicatessen o safon uchel, lle gall cwsmeriaid fwynhau a gwerthfawrogi bwyd da.

Geraint Williams yw goruchwyliwr siop Pwllheli, gydag Eleri Davies yn goruchwylio siop Porthmadog.

Mae pawb yn Y Bwtri yn ymroddedig i’r dasg o gyflwyno’r dewis gorau o fwyd i’r cwsmeriaid gan roi sylw arbennig i fwyd o Gymru. Amcan y brodyr yw cynnig gwasanaeth bwyd llawn yn Y Bwtri, drwy roi cyfle i gwsmeriaid archebu bwydydd ar gyfer achlysuron arbennig, yn ogystal â gwasanaethau eraill megis hamperi, arlwyo a siop ar-lein gydol y flwyddyn.

Mae’r tri brawd yn credu’n gryf mewn darparu dewis gwahanol o fwydydd a rhoi lle blaenllaw i gynhyrchwyr lleol. Fel datblygiad pellach, nôd Y Bwtri yw cynnig gwasanaeth cyflawn i gwsmeriaid sydd wrth eu boddau gyda bwyd, gan gynnwys gwasnaeth ‘Bwtri yn y Cartref’ ble bo’n bosib archebu bwyd ar gyfer digwyddiadau arbennig, gwasanaeth hamperi drwy gydol y flwyddyn a gwasanaeth archebu arlein.

Gallwch ddilyn newyddion diweddaraf Y Bwtri ar ein tudalen Twitter.
Y Bwtri
Hawlfraint © 2010 Bwtri.com
©2010 ZenCart SEO by Inveo s.r.o.