Cyflenwyr
Dyma ychydig o wybodaeth am ein cyflenwyr, er mwyn i chi ddod i’w hadnabod yn well.
Calon Lan
Arwyddair y cwmni yw ‘Nid bwyd cyffredin’. Os nad yw’n cyffroi, ni fyddant yn ei werthu. Maent yn gallu creu’r hyn mae’r cwsmeriaid yn ofyn amdano.
Daw Calon Lân a bwyd iach, gwahanol, sydd yn blasu’n wych i’ch sylw.
Mae’n debyg i chi glywed canu ‘Calon Lân’ gan y dorf mewn gemau rygbi rhyngwladol. Mae’n un o emynau mwyaf poblogaidd Cymru. Mae cwmni Calon Lân yn falch o’i wreiddiau ac yn ymroddedig i gyflenwi bwyd iach o safon uchel.
Daffodil Cottage
Mae cwmni Daffodil Cottage yn cynnig casgliad deniadol o gynnyrch o safon uchel yn dilyn ryseitiau traddodiadol. Maent yn cynnig amrywiaeth o fisgedi blasus, yn dilyn eu ryseitiau Cymreig eu hunain ac yn defnyddio cynhwysion maethlon i greu blas arbennig bwyd cartref.
Maent hefyd yn cynnig dewis eang o gyffeithiau, marmalęd a sawsiau, wedi eu paratoi’n ofalus gyda chynhwysion ffres a’u coginio mewn padelli gwaelod copr i greu blas cyfoethog. Cwmni yw hwn sydd wastad yn chwilio am gynnyrch newydd i ychwanegu at eu dewis eang.
Bacheldre Watermill
Melinyddion Crefftus o Flawdiau Organig Traddodiadol. Tyfir y grawn yn organig i safonau’r Gymdeithas Bridd gan ddefnyddio’r safon uchaf o rawn. Mae maen melin yn malu’r grawn yn ofalus i greu blawd sy’n cadw maeth naturiol y bywyn gwenith. Nid yw’r broses araf hon o falu’n cynhesu’r grawn yn ormodol, felly cedwir blas naturiol y grawn.
Mae Melin Bacheldre’n falch o gyflwyno blawdiau arbennig, ac yn gobeithio y mwynhewch eu bwyta cystal ag y mae’r teulu Scott yn mwynhau eu cynhyrchu.
Ar gael mewn bagiau gwerthu 100% bioddiraddadwy.
The Welsh Mustard Company
Pan flinodd Adeiladwr a Chyfarwyddwr cwmni gwasanaethau cyfreithiol o Aberaeron ar gael cynnig mwstard o Loegr neu Ffrainc yn unig gyda’i stecen, penderfynodd y ddau ffrind greu mwstard hollol Gymreig. Erbyn hyn mae’r Mwstard Coch Cymreig yn creu argraff ar y wlad i gyd.
Seiliwyd y Mwstard Coch Cymreig ar hen gofnod Celtaidd at ‘gig wedi ei sawru â had mwstard a medd’. Ganwyd y Cwmni Mwstard Cymreig.